PrevNext
Miri Yn Y Ffair: Cymraeg Iaith Gyntaf (Y Sbridion) (The Funny Fair: Welsh First Language - The Flitlits)

More Views

Miri Yn Y Ffair: Cymraeg Iaith Gyntaf (Y Sbridion) (The Funny Fair: Welsh First Language - The Flitlits)

In stock

Be the first to review this product

£7.99
Reward Points Policy You will earn 8 Catt credits for buying this product.

Details:

For details in English, please see those outlined in The Funny Fair – First Language (The Flitlits)

Mae 'Miri Yn Y Ffair' yn canfod Digri Pwt yn cynllwynio a breuddwydio. A fydd gwialen ffidlan gyfrwys Digri yn gyfrifol am, neu’n ei helpu ef allan o drwbl? Pwy sy’n chwyddo lan fel swigen syn ar ôl teimlo allan o siâp wrth edrych mewn drych hudolus? Mae Blodni Mod yn cytuno â chynllun cyfrwys …



Mae'r llyfr hwn wedi ei ysgrifennu ar gyfer dysgwyr ifanc sydd â'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Mae'n bwrpasol ar gyfer oedrannau 8-11.

Details



For details in English, please see those outlined in The Funny Fair – Second Language (The Flitlits)

Mae cydrannau difyr, addysgiadol llyfrau'r Sbridion yn helpu plant i ddysgu mewn ac allan o'r ysgol. Ynghyd â helpu i wella sgiliau llythrennedd, eu nod yw ysbrydoli cariad gydol oes o ddysgu, i feithrin creadigrwydd a gwella datblygiadau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae cymeriadau swreal y Sbridion yn gwibio ac yn arnofio yn rhydd, sy'n cynnig ymdeimlad o ryddid a symudiad. Gwelant olwg llygad aderyn o'u plotiau cartref, eu cydgymeriadau a'r tirnodau a ddangosir ar fap. Mae'r nodweddion hyn yn ategu hiwmor a llif yr iaith.

Mae rhyngweithio yn allweddol i ethos y storïau, sy'n ymwneud â chymeriadau y gall plant uniaethu ag o fewn eu bywydau eu hunain. Mae'r Sbridion yn rhyngweithio drwy ddweud jôcs, ffraeo, cynllwynio a phlotio, sy'n hyrwyddo cyfeillgarwch ac ymryson. Mae'r cymeriad canolog, Digri Pwt, yn walch â chalon dda. Mae ei ddrygioni yn caniatáu i blant ddysgu am dosturi, empathi, gwaith tîm ac ymdeimlad o chwarae teg.

Fideo Ysgol Beilot/ Cyfrwng Saesneg: Cliciwch yma i weld cysyniad Y Sbridion/ The Flitlits ar waith yn y dosbarth: https://www.youtube.com/watch?v=G2PWNY6pVlw

Adolygiadau/ Wedi'u Cyfieithu:

“Rydym yn trwytho’n ddwfn yn nhwymyn y Sbridion yn y dosbarth. Rydym wedi dadansoddi’r iaith, edrych ar ddyfeisiau barddonol, dylunio cloriau, creu cyfansoddiadau ysgrifenedig, dadadeiladu cymeriadau, a hyd yn oed rhoi cynnig ar greu cymeriadau a phlotiau newydd! Mae wedi bod yn gyfnod pleserus sydd wedi harneisio brwdfrydedd y plant, yn wirioneddol!” – Melody Jones, Athrawes a Chydlynydd Llythrennedd/ Ysgol Beilot

"Cawsom ein swyno gan lefel y delynegiaeth, dyfnder y cymeriadau a dimensiynau'r stori. Fel darllenydd, rydych yn cael eich tynnu i mewn i fyd hud a lledrith, gyda chymeriadau a digwyddiadau chwilfrydig. Mae llawer o gyfleoedd i drafod y stori neu i siarad am y cymeriadau. Mae'r defnydd o eiriau gydag ystyron ychwanegol yn darparu dyfnder pellach i'r stori. Bydd plant a rhieni yn syrthio mewn cariad â'r cymeriadau, sydd â phersonoliaethau sydd wedi'u datblygu'n dda, gan alluogi plant i ddatblygu eu personoliaethau eu hunain.” - Educational App Store, UK

"Dylai'r pecyn strwythuredig, addysgol hwn fod yn sail i ddysgu iaith ym mhob ysgol gynradd. Mae'r rhai sy'n gweithio gyda phlant yn gwybod am yr hyn sydd yn ysgogi eu diddordeb, chwilfrydedd a dychymyg. Mae Eiry Rees Thomas a'r Sbridion yn gwneud dysgu yn bleser." - Bel Roberts, Awdur ac Addysgwr Ieithoedd Profiadol

Additional Information

Author Eiry Rees Thomas
ISBN 9781909717169
No of pages 64
Format Paperback
Publication Date 21 May 2015

Product Tags

Other people marked this product with these tags:

Use spaces to separate tags. Use single quotes (') for phrases.

Reviews

Write Your Own Review

You're reviewing: Miri Yn Y Ffair: Cymraeg Iaith Gyntaf (Y Sbridion) (The Funny Fair: Welsh First Language - The Flitlits)

How do you rate this product? *

  1 star 2 stars 3 stars 4 stars 5 stars
Price
Value
Quality