PrevNext
Miri Yn Y Ffair: Cymraeg Ail Iaith (Y Sbridion) (The Funny Fair: Welsh Second Language - The Flitlits)

More Views

Miri Yn Y Ffair: Cymraeg Ail Iaith (Y Sbridion) (The Funny Fair: Welsh Second Language - The Flitlits)

In stock

Be the first to review this product

£7.99
Reward Points Policy You will earn 8 Catt credits for buying this product.

Details:

For details in English, please see those outlined in The Funny Fair – Second Language (The Flitlits)

Mae 'Miri Yn Y Ffair' yn canfod Digri Pwt yn cynllwynio a breuddwydio. A fydd gwialen ffidlan gyfrwys Digri yn gyfrifol am, neu’n ei helpu ef allan o drwbl? Pwy sy’n chwyddo lan fel swigen syn ar ôl teimlo allan o siâp wrth edrych mewn drych hudolus? Mae Blodni Mod yn cytuno â chynllun cyfrwys …


Mae'r llyfr hwn wedi ei ysgrifennu ar gyfer dysgwyr ifanc sydd â'r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Mae'n bwrpasol ar gyfer oedrannau 8-11.

Details



For details in English, please see those outlined in The Funny Fair – Second Language (The Flitlits)

Mae cydrannau difyr, addysgiadol llyfrau'r Sbridion yn helpu plant i ddysgu mewn ac allan o'r ysgol. Ynghyd â helpu i wella sgiliau llythrennedd, eu nod yw ysbrydoli cariad gydol oes o ddysgu, i feithrin creadigrwydd a gwella datblygiadau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae cymeriadau swreal y Sbridion yn gwibio ac yn arnofio yn rhydd, sy'n cynnig ymdeimlad o ryddid a symudiad. Gwelant olwg llygad aderyn o'u plotiau cartref, eu cydgymeriadau a'r tirnodau a ddangosir ar fap. Mae'r nodweddion hyn yn ategu hiwmor a llif yr iaith.

Mae rhyngweithio yn allweddol i ethos y storïau, sy'n ymwneud â chymeriadau y gall plant uniaethu ag o fewn eu bywydau eu hunain. Mae'r Sbridion yn rhyngweithio drwy ddweud jôcs, ffraeo, cynllwynio a phlotio, sy'n hyrwyddo cyfeillgarwch ac ymryson. Mae'r cymeriad canolog, Digri Pwt, yn walch â chalon dda. Mae ei ddrygioni yn caniatáu i blant ddysgu am dosturi, empathi, gwaith tîm ac ymdeimlad o chwarae teg.

Fideo Ysgol Beilot/ Cyfrwng Saesneg: Cliciwch yma i weld cysyniad Y Sbridion/ The Flitlits ar waith yn y dosbarth: https://www.youtube.com/watch?v=G2PWNY6pVlw

Adolygiadau/ Wedi'u Cyfieithu:

“Rydym yn trwytho’n ddwfn yn nhwymyn y Sbridion yn y dosbarth. Rydym wedi dadansoddi’r iaith, dylunio cloriau, creu cyfansoddiadau ysgrifenedig, dadadeiladu cymeriadau, archwilio llinellau’r storïau… a hyd yn oed rhoi cynnig ar greu cymeriadau a phlotiau newydd! Mae wedi bod yn gyfnod pleserus iawn sydd wedi harneisio brwdfrydedd y plant, yn wirioneddol!” – Melody Jones, Athrawes a Chydlynydd Llythrennedd/ Ysgol Beilot

"Dylai'r pecyn strwythuredig, addysgol hwn fod yn sail i ddysgu iaith ym mhob ysgol gynradd. Mae'r rhai sydd yn gweithio gyda phlant yn gwybod am yr hyn sydd yn ysgogi eu diddordeb, chwilfrydedd a dychymyg. Mae Eiry Rees Thomas a'r Sbridion yn gwneud dysgu yn bleser." - Awdur ac Addysgwr Ieithoedd Profiadol, Bel Roberts

Additional Information

Author Eiry Rees Thomas
ISBN 9781909717435
No of pages 64
Format Paperback
Publication Date 21 May 2015

Product Tags

Other people marked this product with these tags:

Use spaces to separate tags. Use single quotes (') for phrases.

Reviews

Write Your Own Review

You're reviewing: Miri Yn Y Ffair: Cymraeg Ail Iaith (Y Sbridion) (The Funny Fair: Welsh Second Language - The Flitlits)

How do you rate this product? *

  1 star 2 stars 3 stars 4 stars 5 stars
Price
Value
Quality